Ond mae angen sefydliadau a busnesu i sicrhau bod yr wybodaeth a’r sgiliau cywir gan staff i gyflawni eu swyddi a darparu gwasanaethau gwych yn parhau.
Dyma ble gall Porta gan Ateb helpu. Fel platfform e-ddysgu dwyieithog sy’n hawdd i’w ddefnyddio, mae Porta yn hyblyg ac yn golygu gall hyfforddiant fod yn ddifyr yn ogystal â gafaelgar.
Bwriad ein rhaglenni e-ddysgu yw rhoi dealltwriaeth a gwybodaeth i staff ar faterion allweddol mewn ffordd sy’n ystyrlon a diddorol.
Fel pob dim arall mae Ateb yn ei wneud mae bod yn ymarferol yn bwysig i ni. Mae hyn yr un mor wir am Porta, gyda chynnwys sy’n seiliedig ar ein harbenigedd a’n profiad uniongyrchol ni o ddarparu gwasanaethau.
Rydym yn datblygu ein cyrsiau ein hunain yn Gymraeg ac yn Saesneg – sy’n golygu bod deunydd yn naturiol ac yn ddealladwy.
Gyda rhaglenni penodol wedi'u cynllunio i alluogi sefydliadau cyhoeddus i fodloni gofynion safonau’r Gymraeg, gallwch fod hyderus bod staff wedi'u harfogi i ddarparu gwasanaethau sy'n cydymffurfio.
Ar gyfer busnesau a chyrff sydd am sicrhau bod cydweithwyr yn datblygu ymwybyddiaeth iaith mae rhaglenni byrrach ar gael. Gallwn deilwra i siwtio eich busnes chi.
Manteision e-ddysgu Ateb...