Cyfathrebu Dwyieithog

Gyda blynyddoedd lawer o brofiad ym maes cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu gall Ateb weithio gyda chi i adnabod eich cynulleidfa a’ch helpu chi i ddatblygu a rhannu eich negeseuon mewn iaith mae pobl yn ei deall.

Rydym yn adnabod Cymru a'i phobl - ac yn gweithio gyda chleientiaid ar draws sawl sector. Gallwn ddatblygu a gweithredu ymgyrchoedd sy'n adlewyrchu gwerthoedd eich sefydliad er mwyn eich helpu chi i gyflawni eich amcanion.

Mae ein gallu i gyflawni yn Gymraeg a Saesneg yn greiddiol i’n gwaith - ac rydym yn angerddol dros sicrhau bod cyfathrebu dwyieithog wir yn gweithio i'n cleientiaid. Dyma’r ffordd rydym ni yn gweithio yn Ateb a gallwn eich helpu chi i wneud yr un modd.

Rydym yn llawn ddeall nad yw slogan neu gysyniad sy’n gweithio mewn un iaith yn gweithio mewn iaith arall angenrheidiol. Rydym yn cynllunio ymgyrchoedd ac yn datblygu strategaethau yn y ddwy iaith o'r cychwyn cyntaf. Rydym yn credu mewn defnyddio iaith glir y mae pobl yn ei deall - boed hynny yn Gymraeg neu Saesneg. Rydym yn deall bod datblygu ymgyrch ddwyieithog yn fwy na chyfieithu ac mae ein ffordd o weithio yn adlewyrchu hynny.

Ein gwasanaethau...

  • Ymgyrchoedd a strategaethau cyfathrebu
  • Cefnogaeth i dimau mewnol
  • Ysgrifennu copi dwyieithog
  • Dylunio dwyieithog
  • Cyhoeddiadau a deunydd marchnata dwyieithog
  • Digwyddiadau a chyswllt gyda’r cyfryngau
  • Gwasanaethau swyddfa’r wasg