Ymgysylltu ac Ymgynghori Cymunedol

Mae gallu ymgysylltu ac ymgynghori â chymunedau yn effeithiol yn golygu gallu siarad eu hiaith.

Yn Ateb, mae ein profiad o gyfathrebu a chydymffurfiaeth dwyieithog yn sicrhau ein bod yn gallu arwain cleientiaid trwy brosesau ymgynghori ac ymgysylltu ledled Cymru.

Wedi gweithio gyda sawl awdurdod lleol, y sector breifat a'r trydydd sector ac ar brosiectau mawr rydym wedi datblygu arbenigedd o ran ymgysylltu ac ymgynghori â'r gymuned. Rydym yn gweithio gyda chleientiaid i sicrhau bod strwythur i’r ffordd maen nhw yn ymgysylltu a bod negeseuon yn gyson.

Ein gwasanaethau...

  • Strategaethau a chynlluniau gweithredu ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori
  • Capasiti a staff dwyieithog ar gyfer digwyddiadau
  • Deunyddiau ymgynghori dwyieithog
  • Ymgyrch cyfathrebu Cymreig perthnasol
  • Rhaglenni addysgu