ateb cyfathrebu
Cefnogaeth Cyfathrebu a
Chysylltiadau Cyhoeddus
Gyda dros 25 mlynedd o brofiad cyfathrebu, gall Ateb eich helpu chi i gyrraedd eich cynulleidfa. Rydym yn datblygu, creu a rhannu negeseuon sy'n taro’r nodyn cywir ac yn sicrhau canlyniadau.
Rydym yn deall Cymru a’i phobl ac yn gweithio ar draws llawer o sectorau i gyflawni strategaethau a phrosiectau i ystod eang o gleientiaid. Gallwn ddatblygu cynlluniau sy'n cyd-fynd a’ch amcanion chi er mwyn cyrraedd eich nod.
Mae cyfathrebu dwyieithog wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud o ddydd i ddydd. Rydym yn creu cynnwys ac yn datblygu ymgyrchoedd sy’n gweithio – yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rydym yn credu mewn defnyddio iaith syml, mae pobl yn ei deall. Boed yn Gymraeg neu Saesneg, rydym yn sicrhau bod eich cynulleidfa yn deall ac yn ymgysylltu â’r hyn sydd gennych i’w ddweud.
Gallwn gynnig yr ystod lawn o wasanaethau cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu i'ch helpu chi i gyrraedd ac ysbrydoli eich cynulleidfa.
Cyfathrebu Strategol ac Ymgyrchoedd
Strategaethau wedi'u teilwra sy'n cyd-fynd â'ch amcanion, o godi ymwybyddiaeth i reoli enw da.
Cyfathrebu mewn Argyfwng a Rheoli Enw Da
Arweiniad a chymorth gyda negeseuon i ddiogelu a chynnal ymddiriedaeth.
Cyfryngau Cymdeithasol
Cynllunio cynnwys ac ymgysylltu i gryfhau ac adeiladu eich presenoldeb ar-lein.
Ymgysylltu Cymunedol
Cryfhau ac adeiladu ymddiriedaeth trwy ymgysylltu cymunedol ar brosiectau mawr a datblygiadau lleol.
Cysylltiadau â'r Cyfryngau
Rheoli cyswllt gyda’r cyfryngau, datganiadau i'r wasg, ac ymgysylltu â newyddiadurwyr yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Deunyddiau Dylunio a Marchnata Dwyieithog
Cyhoeddiadau, ymgyrchoedd a brandio o safon uchel, sy’n hygyrch a pherthnasol.
Ysgrifennu Copi Dwyieithog a Chreu Cynnwys
Ysgrifennu clir, deniadol ar gyfer gwefannau, adroddiadau a chyfryngau cymdeithasol.
Digwyddiadau ac Ymgysylltu
Trefnu a chefnogi digwyddiadau, o sesiynau cymunedol i lansiadau a chynadleddau proffil uchel.
Cysylltu gyda ni
Cysylltwch am sgwrs anffurfiol ynglŷn â’n gwasanaethau.