ateb iaith
Cyngor Iaith Gymraeg
Waeth beth yw eich cwestiwn am yr iaith – gallwn weithio gyda chi i ddarganfod yr ateb sy’n gweithio i chi ar faterion strategol ac ymarferol yn ymwneud â’r Gymraeg
Gyda hanes o lwyddo a phrofiad sylweddol, gallwn sicrhau eich bod yn gwneud y defnydd gorau o’ch adnoddau.
Cefnogaeth ar gyfer y sector cyhoeddus - Safonau’r Gymraeg
Cyflwynodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, Safonau’r Gymraeg, sy’n rhoi hawl gyfreithiol i bobl Cymru i dderbyn gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg.
I rai sefydliadau, mae’n her cyrraedd a chadw at y gofynion.
Beth all Ateb gynnig?
● Paratoi ar gyfer y safonau, gan gynnwys cynnal dadansoddiad o’r bylchau, cefnogaeth wrth ymateb i ymgynghoriadau, a rhoi cyngor ar heriau ffurfiol.
● Cefnogaeth barhaus gyda chydymffurfiaeth, o lunio cynlluniau gweithredu a chanllawiau mewnol, i ddarparu hyfforddiant, adolygu polisïau, cyfieithu, ac ymateb i gwynion.
● Cynnal adolygiadau a gwiriadau cydymffurfiaeth i adnabod gwelliannau posib ac i roi sicrwydd bod gofynion yn cael eu cyrraedd yn gyson.
Datrysiadau ar gyfer y trydydd sector – strategaethau iaith ymarferol a chyraeddadwy
Nid ffordd o gyfathrebu yn unig yw’r Gymraeg – wedi ei wneud yn iawn, gall eich helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chryfhau eich presenoldeb, gan eich gwneud yn fwy cystadleuol wrth dendro i ddarparu gwasanaethau ar ran sefydliadau’r sector gyhoeddus yng Nghymru.
Mae ein profiad o weithio gyda sefydliadau sy’n gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig, sy’n aml wedi eu lleoli y tu allan i Gymru, yn golygu ein bod yn deall sut i gael y cydbwysedd iawn tra’n parhau i fod yn berthnasol.
Beth all Ateb gynnig?
Mae ein dull o weithredu yn ymarferol, a bob amser yn sicrhau bod yr hyn rydym yn ei argymell yn gynaliadwy. Rydym wedi gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru a’r DU.
● Adolygu eich cynnig presennol a datblygu strategaethau a pholisïau iaith Gymraeg.
● Darparu cymorth a chapasiti cyfathrebu yn Gymraeg, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol.
● Darparu sesiynau codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg.
● Cefnogi gydag ymateb i dendrau a chynllunio gwasanaethau.
Datrysiadau i Fusnesau – rhoi mantais gystadleuol i chi yng Nghymru
Trwy gynnig gwasanaethau dwyieithog, gallwch greu perthynas gadarnhaol gyda chwsmeriaid a denu rhai newydd. Rydym yn darparu cefnogaeth i fusnesau mawr a bach, o ddatblygu safbwynt ffurfiol wrth ymdrin â’r iaith, i wasanaethau cyfieithu a phrawf ddarllen, neu greu ymgyrchoedd dwyieithog sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. Gall Ateb eich helpu chi ddatblygu llais Cymraeg a Chymreig credadwy a gwneud i’ch busnes sefyll allan.
Cysylltu gyda ni
Cysylltwch am sgwrs anffurfiol ynglŷn â’n gwasanaethau.