Y Tîm

Llinos Iorwerth

Mae gan Llinos dros 20 mlynedd o brofiad ym maes cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus, ac mae wedi gweithio’n fewnol gyda sefydliadau ar lefel uwch reolwr ac fel ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus annibynnol.

Cyn sefydlu Ateb roedd yn bennaeth cyfathrebu yn y sector tai, ac mae wedi datblygu strategaethau cyfathrebu niferus, yn ogystal ag arwain timau cyswllt cymunedol a gofal cwsmer.

Yn Ateb, Llinos sy’n arwain ar brosiectau cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu, yn ogystal â chynghori cleientiaid ar gyrraedd cynulleidfaoedd dwyieithog. Mae hi hefyd yn arwain ar gyhoeddiadau, cynnwys dwyieithog a rheoli digwyddiadau.

Astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae ganddi radd Meistr mewn Busnes ac Ieithoedd Ewropeaidd o Brifysgol Southbank, Llundain. Mae'n aelod o'r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) ac yn aelod anweithredol o fwrdd y gymdeithas dai Grŵp Cynefin.

Mae’n ymddiddori mewn ieithoedd ac yn hoffi cyflawni a thicio pethau oddi ar ei rhestr ‘gwneud’ - mae cael trefn yn gryfder iddi. Mae Llinos yn credu mewn defnyddio iaith glir, hawdd ei ddeall, ac osgoi jargon diangen!

 
 

Rhys Evans

Mae gan Rhys dros 16 mlynedd o brofiad mewn swyddi cynllunio strategol uwch, cydymffurfiaeth reolaethol a datblygu economaidd a chymunedol.

Wedi bod yn bennaeth ar dîm gyda chyfrifoldeb dros wasanaethau corfforaethol a chyfreithiol, y Gymraeg, ac archwilio mewnol – penderfynodd fynd amdani a defnyddio ei brofiad helaeth i sefydlu Ateb.

Mae Rhys yn gallu meddwl yn strategol ac mae’n angerddol dros ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf i gwsmeriaid. Fo sy’n arwain ar gydymffurfiaeth a datblygu strategaethau iaith yn Ateb, gan gynghori cleientiaid ar gynllunio gwasanaethau amlieithog.

Wedi derbyn gradd o Brifysgol Bangor a chymhwyster ôl-radd mewn Cynllunio Gwlad a Thref a Datblygu Cymunedol, mae Rhys hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol gyda’r fenter gymdeithasol, Antur Waunfawr ac yn aelod o fwrdd Glas Cymru. Mae'n hoffi craffu’r manylion, ac yn ei eiriau fo ei hun mae'n dechrau magu ychydig o obsesiwn am y safonau. Rhys yw siaradwr y swyddfa ac mae’n mwynhau cael ei herio a meddwl ar ei draed!

Ni fyddai Ateb yn gyflawn heb ein rhwydwaith eang o ymgynghorwyr a chysylltiadau profiadol rydym yn gweithio gyda nhw o bryd i'w gilydd i gyflawni prosiectau ac ymgyrchoedd penodol.