Rhys Evans
Cyfarwyddwr
Mae gan Rhys 20 mlynedd o brofiad mewn cynllunio strategol, cydymffurfiaeth reoleiddiol, a datblygu economaidd. Ar ôl arwain tîm gwasanaethau corfforaethol ble roedd yn gyfrifol am lywodraethiant, gwasanaethau cyfreithiol, y Gymraeg, ac archwilio mewnol, fe benderfynodd fynd amdani a sefydlu Ateb. Yn feddwl strategol gyda llygad am fanylion, mae’n cynghori cleientiaid ar strategaeth a chydymffurfiaeth iaith Gymraeg. Graddiodd o Brifysgol Bangor gyda chymhwyster ôl-radd mewn Cynllunio Tref a Gwlad ac mae’n aelod o fwrdd Antur Waunfawr a Glas Cymru. Mae'n hoffi craffu’r manylion, ac yn ei eiriau fo ei hun mae'n geek safonau’r Gymraeg. Rhys yw siaradwr y swyddfa ac mae’n mwynhau cael ei herio a meddwl ar ei draed!