Marged Wiliam
Ymgynhorydd Iaith
Ymunodd Marged gyda'r tîm fel Ymgynghorydd Iaith yn Ionawr 2026. Mae ganddi dros bum mlynedd o brofiad ym meysydd polisi a materion allanol, yn benodol o fewn y maes rheoleiddio iechyd. Arweiniodd ar baratoi a gweithredu safonau'r Gymraeg mewn sefydliad cymhleth sy'n gweithio ar draws y Deyrnas Gyfunol. Mae Marged yn mwynhau mynd o dan groen y safonau a'u rhoi ar waith mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac sy'n ychwanegu gwerth. Mae gan Marged brofiad o gyfathrebu'r safonau yn effeithiol, datblygu perthnasau gwaith cryf a chynhyrchiol, a darparu cyngor arbenigol gan addasu i anghenion gwahanol gleientiaid. Fel awdur a bardd yn ei hamser sbâr, mae Marged yn mwynhau chwarae ac arbrofi gyda iaith. Tu hwnt i'w gwaith, mae Marged yn mwynhau crwydro, nofio gwyllt, darllen a rhoi'r byd yn ei le gyda chriw Llyfrau Lliwgar.