Callum Evans

Crëwr Adnoddau a Chynnwys

Callum yw ein Dylunydd Adnoddau a Chynnwys ac ymunodd â'r busnes yn 2024. Mae ganddo BSc mewn Dylunio Cynnyrch a MSc mewn Dylunio Arloesol o Brifysgol Bangor. Yno datblygodd ei sgiliau dylunio graffeg a strategaeth dylunio. Callum sy’n gyfrifol am greu cynnwys deniadol ar gyfer Porta, ein platfform e-ddysgu, yn ogystal â chefnogi ein prosiectau cyfathrebu. Gydag agwedd ddi-ffwdan, mae’n gweithio’n dda ’dan bwysau ac yn mwynhau creu dyluniadau a chynnwys deniadol. Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau chwarae rygbi i’w dref enedigol, sef Clwb Rygbi Bro Ffestiniog.

Previous
Previous

Elliw Jones

Next
Next

Erin Thomas