Erin Thomas
Rheolwr Cyfathrebu
Mae gan Erin dros saith mlynedd o brofiad yn y maes cyfathrebu proffesiynol ac wedi gweithio gyda’r sector cyhoeddus a phreifat. Dros y blynyddoedd, mae wedi adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau ar draws gogledd Cymru a thu hwnt, ac mae’n angerddol dros gynnal a meithrin perthnasau hir dymor. Roedd Erin yn gyfarwyddwr anweithredol ar fwrdd Mentera ac yn aelod o fwrdd Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) Cymru tan yn ddiweddar. Mae ganddi dystysgrif mewn Cynhyrchu Cyfryngau Uwch (MSc) a gradd mewn Rheolaeth Busnes. Mae Erin ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd.