Llinos Iorwerth
Cyfarwyddwr
Mae gan Llinos dros 25 mlynedd o brofiad ym maes cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus. Cyn sefydlu Ateb, roedd yn bennaeth cyfathrebu yn y sector tai ac wedi gweithio fel ymgynghorydd annibynnol, gan ddatblygu strategaethau ac ymgyrchoedd llwyddiannus i gleientiaid ar draws nifer o sectorau. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd mewn Ffrangeg ac Eidaleg ac mae ganddi radd Meistr mewn Busnes Ewropeaidd. Mae’n aelod o’r CIPR ac mae’n eistedd ar fwrdd Grŵp Cynefin. Mae’n dod a phrofiad helaeth i Ateb wrth lunio negeseuon sy’n taro deuddeg ac yn creu effaith go iawn. Ei chenhadaeth bob amser yw pwysigrwydd cyfathrebu clir ac effeithiol, ym mha bynnag iaith.