Angharad Prys
Cyfathrebu
Yn gyfathrebwr profiadol, mae gan Angharad dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector gyhoeddus, preifat ac elusennol. Yn arbenigol mewn cysylltiadau gyda’r cyfryngau, ysgrifennu copi a threfnu digwyddiadau, mae ganddi berthynas dda gyda’r wasg yng Nghymru.
Mae uchafbwyntiau ei gyrfa yn amrywio o drefnu a rheoli cynadleddau’r wasg dyddiol yn Eisteddfod yr Urdd, i drefnu taith ar draws Cymru gyda ‘rhedwr stryd’ wedi ei wisgo fel Spiderman i hyrwyddo cyfres gyntaf yr arch-arwr ar S4C.
Pan nad ydy hi yn y gwaith, mae Angharad hapusaf ar ben mynydd neu ar lan y mor - waeth beth fo’r tywydd. Mae’n byw yng Nghaernarfon gyda’i gwr Arwel a’i dwy ferch, Nel a Gweneira.