Elliw Jones

Cydlynydd Prosiectau Iaith

Ymunodd Elliw â thîm Ateb yn 2024 fel Cydlynydd Prosiectau Iaith. Mae ganddi radd BA mewn Cymraeg a Cherddoriaeth o Brifysgol Bangor, ac mae wedi cwblhau gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Elliw yn gyfrifol am gefnogi prosiectau iaith o gyfieithu a phrawf ddarllen i reoli cyfrifon cymdeithasol a chadw trosolwg ar waith cleientiaid. Gyda’i llygaid craff am fanylder, a’i hawydd i ddysgu a datblygu ei harbenigedd, mae Elliw eisoes yn rhan bwysig, ac yn mwynhau cyfrannu at brosiectau cleientiaid o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Yn ei amser hamdden, mae Elliw yn rhan o grŵp gwerin Tant ac yn cynorthwyo adref ar y fferm yn Nyffryn Conwy. 

Previous
Previous

Rhys Evans

Next
Next

Callum Evans