Y Cyd-destun Cymreig

Mae Cymru yn wahanol ac mae’r cyd-destun yn wahanol, ac nid dim ond oherwydd yr iaith - mae mwy iddi na hynny.

Gyda llywodraeth ddatganoledig a gwahaniaethau diwylliannol i rannau eraill o'r DU - os ydych chi am greu impact yng Nghymru, bydd gweithio gydag Ateb yn eich helpu chi i sicrhau eich bod yn ystyried yr hyn sy’n bwysig ac yn gwneud pethau yn iawn.

Mae ein profiad o weithio gyda sefydliadau aml-genedl - llawer ohonynt y tu allan i Gymru, yn ein gwneud yn unigryw. Rydym yn deall yr heriau o weithio ar draws gwledydd y DU ac wedi datblygu ffyrdd ymarferol o ddelio â nhw sy'n golygu bod ein cleientiaid yn gredadwy yn y ffordd y maen nhw’n gweithredu ac yn cyfathrebu yng Nghymru.

Ein gwasanaethau...

  • Sesiynau briffio ac ymwybyddiaeth i staff wedi'u teilwra ar eich cyfer chi
  • Capasiti mewn digwyddiadau yng Nghymru
  • Cyngor ar faterion a chyd-destun polisi Cymreig
  • Ymgyrchoedd sy’n berthnasol i Gymru
  • Codi ymwybyddiaeth a gwaith maes