BBC
Comisiynwyd Ateb i weithio gyda’r BBC nol yn 2016 i ddarparu cefnogaeth a chyngor ar gydymffurfio gyda safonau’r Gymraeg.
Gweithiodd Ateb gyda gwahanol adrannau i’w helpu ddeall y gofynion, cynhyrchu canllawiau ar gyfer staff, yn ogystal â datblygu dogfennau cydymffurfio. Roedd darparu cyngor a chefnogaeth cyfathrebu mewnol yn rhan o’n gwaith gyda’r BBC hefyd a hynny’n cynnwys cynnal sesiynau briffio i staff allweddol yng Nghymru, Llundain a Birmingham.
Rydym yn parhau i weithio gyda’r BBC – gan ddarparu ystod eang o wasanaethau sy’n gysylltiedig â chydymffurfiaeth gan gynnwys hyfforddiant staff, cyngor ar ymdrin â chwynion, archwiliadau cydymffurfiaeth a chyswllt gyda swyddfa’r Comisiynydd.
Y Brifysgol Agored
Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Brifysgol Agored ers Ionawr 2017 – i godi ymwybyddiaeth yn fewnol a pharatoi am safonau’r iaith.
Mae ein gwaith wedi cynnwys llunio cynlluniau cydymffurfio manwl, datblygu ymgyrch gyfathrebu mewnol yn ogystal â chynhyrchu canllawiau ar gyfer staff ar draws y brifysgol. Rhan allweddol o’r gwaith yn ogystal oedd helpu’r cleient drwy broses ffurfiol o herio elfennau o’r safonau. Rydym hefyd wedi cynnal sesiynau ymwybyddiaeth ar gyfer staff yng Nghaerdydd, Milton Keynes, Manceinion, a Nottingham, ac wedi datblygu polisïau i sicrhau bod y brifysgol mewn sefyllfa gref i gydymffurfio gyda safonau’r iaith.
Mae’r OU yn parhau i elwa o wasanaethau Ateb – ac yn cael mynediad at gyngor a gwybodaeth ar faterion sy’n gysylltiedig â’r safonau a materion iaith Gymraeg.
Canolfan Mileniwm Cymru
Comisiynwyd ni gan y Ganolfan i helpu paratoi am weithredu safonau’r Gymraeg. Roedd gwasanaethau dwyieithog eisoes wedi eu sefydlu yn y Ganolfan ac yn rhan o’r ffordd roedd y sefydliad yn gweithredu o ddydd i ddydd. Ond roedd angen cefnogaeth ychwanegol i’w harwain drwy’r broses o gwrdd ag anghenion newydd safonau ac adnabod meysydd o risg posib.
O ddod i adnabod y cleient rydym wedi cydweithio i roi prosesau mewn lle er mwyn cwrdd â safonau a rhoi cynllun gweithredu ar waith.
Mae’r Ganolfan mewn sefyllfa gadarn i sicrhau bod gwasanaethau yn ddwyieithog gyda staff yn deall y gofynion arnynt. Rydym yn parhau i weithio gyda’r Ganolfan i ddarparu sesiynau ymwybyddiaeth ar gyfer staff a chyngor ar y safonau a materion ieithyddol eraill.
Busnes Cymru
Comisiynwyd Ateb i gynllunio a gweithredu ymgyrch cyfathrebu ar ran Busnes Cymru i godi ymwybyddiaeth a chynyddu defnydd o’i wasanaethau cyfrwng Cymraeg.
Cynhaliwyd sesiynau wedi eu hwyluso gyda staff er mwyn datblygu negeseuon a chynllun gweithredu fyddai’n cwrdd ag amcanion. Roedd tactegau’r ymgyrch yn cynnwys cynhyrchu fideo, gifs wedi eu hanimeiddio, straeon newyddion, hysbysebion mewn cyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg a deunyddiau hyrwyddo wedi eu dosbarthu i ganolfannau busnes ar draws yr ardal targed. Cynhaliwyd digwyddiad i gloi’r ymgyrch i ddathlu defnydd o’r Gymraeg mewn busnes, i rwydweithio a rhannu arfer dda.
Tai Gogledd Cymru
Yn dilyn proses tendro, penodwyd Ateb gan y gymdeithas dai sy’n gweithredu ar draws y gogledd i ddarparu cefnogaeth cyfathrebu strategol a gweithredol.
Roedd y gwaith yn cynnwys cynhyrchu newyddlen tenantiaid chwarterol, ymdrin ag ymholiadau gan y wasg, drafftio ceisiadau am wobrau, chyfathrebu argyfwng a darparu cefnogaeth ar gyfathrebu mewnol. Cynhyrchwyd adroddiad blynyddol fel rhan o’r gwaith yn ogystal â fframwaith ar gyfer hunanasesiad y gymdeithas.
Menter Môn
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Menter Môn ers nifer o flynyddoedd i ddarparu cefnogaeth strategol a gweithredol ar faterion cyfathrebu ar lefel corfforaethol ac ar lefel project. Prif her y gwaith hwn yw sicrhau bod brand Menter Môn yn cael ei gysylltu gyda phob prosiect unigol.
Mae ein gwaith wedi cynnwys cynhyrchu newyddlen ddigidol ryngweithiol yn ogystal â delio gydag ymholiadau’r wasg a darparu cefnogaeth cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer prosiectau sy’n derbyn cyllideb Llywodraeth Cymru ac Ewropeaidd.
Comisiynydd y Gymraeg
Mae Ateb wedi gweithio ar ddau brosiect ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg gan gynnal ymchwil i ymddygiad siaradwyr Cymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau amrywiol ar-lein, wyneb yn wyneb ac ar y ffôn. Roedd y gwaith yn edrych ar y gwahanol ffactorau sy’n dylanwadu ar ddewis iaith unigolyn wrth gyrchu gwasanaeth. Gan weithio gyda Phrifysgol Bangor, defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau ymchwil gan gynnwys grwpiau ffocws wedi eu hwyluso a chysgodi defnyddwyr.
Gyda chyfranogwyr yn cael eu holi am brofiad o ddefnyddio gwasanaethau o fewn cwmpas safonau’r iaith roedd ein dealltwriaeth ni o fframwaith y safonau wedi sicrhau bod y gwasanaethau a brofwyd yn real ac amrywiol.
Dangosodd yr adborth ar ddiwedd y ddau brosiect bod natur ymarferol ein methodoleg wedi cyfrannu yn sylweddol at ddilysrwydd y gwaith. Roedd canfyddiadau wedi eu cynnwys yn Adroddiad Sicrwydd y Comisiynydd ar gyfer 2017/18 a 2018/19.
FCA
Comisiynodd y Financial Conduct Authority (FCA) Ateb i wneud adolygiad llawn o’i gynllun iaith ac i ddatblygu cynllun gweithredu. Roedd y gwaith yn cynnwys ymgynghori gyda staff i ddeall capasiti yr FCA ac i fapio unrhyw oblygiadau polisi iaith newydd ar y sefydliad. Hwyluswyd cyswllt gyda Chomisiynydd yr iaith ar ran FCA hefyd.
Rydym wedi parhau i ddarparu cefnogaeth ar faterion ieithyddol i’r FCA gan gynnwys paratoi adroddiad blynyddol. Yn ddiweddar rydym wedi ein penodi i ddarparu cymorth mwy hir dymor iddynt er mwyn sicrhau bod gan y sefydliad gapasiti i gynyddu gwasanaethau Cymraeg dros gyfnod.
Mae’r gwasanaethau rydym yn eu darparu yn cynnwys cyngor ar ddefnydd o’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol, darparu sesiynau ymwybyddiaeth iaith i staff yn eu pencadlys yn Llundain, yn ogystal â rhoi cyngor ar elfennau Cymreig o ymgyrchoedd cyfathrebu.
Mae’r FCA bellach yn cynnig mwy o wasanaethau cyfrwng y Gymraeg i’w gleientiaid a chyda cefnogaeth Ateb mae cynlluniau mewn lle i barhau gyda’r cynnydd yma.
Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn
Roedd y Gwasanaeth Cerdd yn awyddus i godi ei broffil, cynyddu ymgysylltiad gyda disgyblion ac ysgolion, yn ogystal â diweddaru eu brand.
Arweinydd Ateb y Gwasanaeth drwy broses o foderneiddio’r brand gan weithio gyda dylunydd i ddatblygu hunaniaeth a steil newydd oedd yn addas ar gyfer ei gynulleidfa darged. Rhoddwyd rhaglen mewn lle i ail frandio cyhoeddiadau, deunydd print a digidol, ac mewn digwyddiadau.
Rydym hefyd wedi cefnogi’r Gwasanaeth trwy gyfnod o newid mewnol gan gynghori ar faterion cyfathrebu gyda staff, a datblygu polisi.
Morlais
Prosiect ynni llanw Menter Môn yw Morlais. Yn y cyfnod allweddol o baratoi i gyflwyno cais am ganiatâd i ddatblygu’r cynllun comisiynwyd Ateb i ymgymryd â’r gwaith o ymgysylltu ac ymgynghori yn lleol yn ogystal â darparu cefnogaeth cyfathrebu a chysylltiadau cyhoedd i’r tîm yn fewnol.
Datblygwyd strategaeth ymgynghori i sicrhau bol y gymuned yn lleol ac yn ehangach yn cael cyfle i gael llesio barn ar y prosiect yn ystod y cyfnod hwn. Roedd y gwaith cychwynnol yn cynnwys mapio rhan-ddeiliaid a phrofi negeseuon. Roedd Ateb yn gyfrifol am weithredu’r cynllun a chware rôl allweddol yn y digwyddiadau ymgynghori a chyfarfodydd gyda rhan ddeiliaid ar bob lefel.
Mae ein dealltwriaeth o’r cyd-destun lleol a Chymreig wedi cyfrannu at ein gallu i gyflawni’r cytundeb hwn yn ogystal â’n rhwydwaith eang o gysylltiadau.