Chwilio am yr Ateb?

Dewch i siarad gyda ni. Gallwn eich helpu i gyfathrebu gyda’ch cwsmeriaid mewn iaith y maen nhw’n ei deall.

Rydym yn arbenigo mewn datblygu polisïau a strategaethau iaith, safonau’r Gymraeg, cyfathrebu dwyieithog ac ymgynghori cymunedol.

Mae bod yn ymarferol a chost effeithiol yn greiddiol i’n strategaethau a pholisïau iaith. A chyda cyfathrebu dwyieithog yn rhan allweddol o'n cynnig rydym yn gallu darparu pecyn cyflawn sy'n helpu sefydliadau a busnesau i gyrraedd cynulleidfaoedd dwyieithog, newydd, a chyfleu eu negeseuon yn glir.

O'n swyddfa ger y Fenai, ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn rydym yn cydweithio gyda sefydliadau ar draws y DU i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sy'n dod o gyfathrebu a darparu gwasanaethau dwyieithog. Rydym yn gwmni bychan sydd wedi datblygu profiad sylweddol – ac rydym yn hynod falch o'n rhestr helaeth o gleientiaid. Mae ein gwaith wastad i'r safon uchaf sy'n golygu bod ein cwsmeriaid yn dod yn ôl atom dro ar ôl tro.

Ein Cleientiaid