Gwasanaethau Iaith Gymraeg

Safonau’r Gymraeg – cymorth i gydymffurfio

Mae safonau’r Gymraeg yn rhoi hawl i bobl yng Nghymru dderbyn gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae gosod y safonau wedi newid disgwyliadau pobl o ran y Gymraeg - a gall cwrdd â'r gofynion a chynnal y safonau yn yr hir dymor fod yn her.

Beth all Ateb wneud?

Gallwn ddarparu cymorth cydymffurfio sy’n gost-effeithiol ac yn hawdd ei ddeall - gan adael mwy o amser i chi ganolbwyntio ar gyflawni blaenoriaethau craidd eich sefydliad. Mae ein gwaith gyda chleientiaid yn cynnwys datblygu canllawiau staff, creu cynlluniau cydymffurfio, a chynnal hyfforddiant a sesiynau ymwybyddiaeth iaith.

Os ydych eisoes yn cydymffurfio gyda’r safonau ond yn chwilio am sicrwydd, gallwn gynnal archwiliad i'ch helpu chi adnabod risgiau a sicrhau eich bod yn parhau i gwrdd â gofynion.

Datblygu strategaethau iaith ymarferol

Gyda blynyddoedd wedi’u treulio yn gweithio mewn sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen dwyieithog mae’r tîm yn Ateb yn cynnig cymorth a chyngor sy’n seiliedig ar brofiad go iawn.

Gall defnyddio Cymraeg yn eich sefydliad neu fusnes roi mynediad i chi at gynulleidfaoedd newydd, sicrhau eich bod yn darparu gwell gwasanaeth cwsmer yn ogystal â bod yn fwy cystadleuol yn fasnachol. Gall cynnig gwasanaethau dwyieithog rhagweithiol hefyd wella teyrngarwch cwsmeriaid ac mae bellach yn hanfodol os ydych am gydweithio gyda’r sector gyhoeddus yng Nghymru.

Beth all Ateb wneud?

Gallwn weithio gyda chi i ddatblygu strategaethau a pholisïau mewn ffordd sy’n siwtio eich busnes neu’ch sefydliad chi. Mae’r hyn rydym yn gynnig wastad yn ymarferol a byddwn bob amser yn cynnig rhywbeth sy’n gynaliadwy ac yn gweithio i chi.

Ar gyfer ein cleientiaid mae ein tîm profiadol yn darparu gwasanaethau i'r safon uchaf mewn ffordd sydd wedi'i becynnu'n syml ac yn gost-effeithiol.

  • Cydymffurfio gyda safonau’r Gymraeg
  • Cefnogaeth hir dymor ar faterion ieithyddol
  • Cyngor ar faterion iaith Gymraeg
  • Adolygiadau ac archwiliadau cydymffurfiaeth
  • Cynnwys dwyieithog ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
  • Cyfieithu a phrawf ddarllen
  • Adolygu polisi corfforaethol
  • Hyfforddiant ac ymwybyddiaeth iaith Gymraeg
  • Capasiti dwyieithog dydd i ddydd